Letra de Suo gan

Empire Of The Sun

Letra de Suo gan de Empire Of The Sun
Busca letras de canciones, artistas y radios de diferentes paises y ciudades.

Letra de SUO GAN de EMPIRE OF THE SUN.

( Empire Of The Sun )

Huna blentyn yn fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy´n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha´ dim amharu´th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam;
Huna´n dawel, annwyl blentyn,
Huna´n fwyn ar fron dy fam.
Huna´n dawel, heno, huna,
Huna´n fwyn, y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu´n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy´n gwenu,
Arnat ti yn gwenu´n llon,
Tithau´n gwenu´n ôl dan huno,
Huno´n dawel ar fy mron?
Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena´n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw